P-06-1405 Mae eisiau ac mae angen uned Iechyd Meddwl â gwelyau i ddynion arnom ni yng Ngogledd Cymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Lynda Leigh, ar ôl casglu 261 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae cynifer o ddynion yn dioddef o broblemau iechyd meddwl. Roedd yn ddigon drwg cyn y cyfnod clo ond nawr mae’n ofnadwy. Fel landledi, gallaf wed drosof fy hun yr holl ddynion sy’n methu ymdopi â nifer o broblemau. Maen nhw’n galw’n daer am gymorth ac yn clywed bod angen iddyn nhw godi eu llais a gofyn am help, ond pan fyddan nhw’n gwneud hynny, does dim help ar gael.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Delyn
· Gogledd Cymru